English

Treks Bunkhouse

+44 7796 172318 ebost facebook

Ble i fynd a beth i’w wneud

... mae cymaint o ddewis!

Byncws Treks yw’r llety canolog delfrydol i’ch holl weithgareddau awyr agored – a’r cyfan o fewn hanner awr o yrru (ar y mwyaf) drwy olygfeydd godidog Eryri. Mi ydan ni hefyd yn un o Byncwsau ar hyd ar Ffordd Cambrian

Ar Ddwy Olwyn

I gychwyn, dafliad carreg i fyny’r lôn ym Mlaenau Ffestiniog y mae mae Antur Stiniog, sy’n cynnig llwybrau beicio i lawr allt (a hyfforddiant beicio mynydd, os ydych angen!), caffi, siop, cawodydd a lle i olchi eich beic. A dydyn ni ddim yn bell o Lwybr Cenedlaethol 82 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Mae traciau sengl heriol at bob tywydd i’w canfod mewn canolfannau fel Coed Y Brenin (a llwybrau fel MinorTaur, Cefn y Ddraig, and Bwystfil y Brenin), Coewdig Gwydyr, a Penmachno, sy’n addas i deuluoedd.

Yn y Mynyddoedd

I gerddwyr a dringwyr, mae mynyddoedd y Moelwyn a’r Cnicht dafliad carreg i ffwrdd, ynghyd â rhai o’r llwybrau beicio mynydd gorau! A thaith o ryw 40 munud yn unig yn y car yw’r Wyddfa. Cofiwch holi Dyfed am wybodaeth am y llwybrau ‘cudd’!

Ar Yr Afonydd

Caiff rafftwyr a chaiacwyr dŵr gwyn eu denu’n naturiol i’r Ganolfan Dŵr Gwyn Genedlaethol ger y Bala. Ac mae mwy o ddŵr gwyn yn disgwyl amdanoch ar afonydd Conwy, Ogwen a Glaslyn, gan gynnig profiadau dŵr gwyn i ddechreuwyr, canolradd a rhai profiadol. Ar afon Goedal, ychydig yn agosach i Ffestiniog, y mae darn byr gradd 5, heb lawer o bobl yno, sy’n cynnig llithrennau naturiol, rhaeadrau a syrthiadau yn arddull Norwy. Os gofynnwch chi’n glên i Dyfed, efallai y gwnaiff gynnig datgelu ble mae’r mannau gorau i fynd!

Muriau'r Castell, Yr Eidal Yng Nghymru, Neu Ar Y Traeth ...

Beth am grwydro rhwng muriau castell Harlech, neu freuddwydio’n Eidalaidd ym mhentref Portmeirion? Ac wrth gwrs, mae arfordir hardd Cymru a thraethau euraidd i’w canfod tu draw’r bryn. Mae llawer o’r traethau heulog hynny wedi ennill statws baner las. Traeth Morfa Bychan yw’r traeth hiraf yn y Deyrnas Unedig, a gallwch hyd yn oed yrru eich car arno.

...Beth Arall?

Ymhellach i fyny’r dyffryn, gallwch fynd i weld Ceudyllau Llechwedd, neu groesi’r mynydd i Feddgelert, a gweld ceudyllau tanddaearol Gwaith Copr Sygun. Ac wedyn beth am gerdded ceunentydd, mynd ar daith ar reilffordd lein fach Ffestiniog ac Ucheldir Cymru, ac wrth gwrs, Zip World (Titan a’r Ceudyllau) a Bounce Below ym Mlaenau Ffestiniog.

Mae un peth yn sicr – ni fydd amser i ddiflasu!