English

Treks Bunkhouse

+44 7796 172318 ebost facebook

Byncws Treks

Mae Byncws Treks wedi’i leoli 900 troedfedd uwch lefel y môr yn y mynyddoedd mawreddog ger pentref Ffestiniog, lle mae’r Gymraeg a’r diwylliant Cymreig yn dal i ffynnu. Dyma’r lleoliad perffaith i bobl sy’n mwynhau treulio amser yn yr awyr agored, ac yn harddwch naturiol Eryri yng ngogledd Cymru.

Mwy o luniau yn ein galeri

P’un a ydych yn mwynhau beicio, cerdded, canŵio, chwarae golff neu bysgota, Byncws Treks yw’r ganolfan berffaith i chi – yn arbennig am y gallwn rannu ein gwybodaeth helaeth am yr ardal leol, y llwybrau beicio mynydd gorau, ble i fynd i gaiacio dŵr croyw, a cherdded o’r mynydd i’r môr, ynghyd â llwybrau ‘cyfrinachol’ eraill hefyd!

Rydyn ni mewn man canolog, heb fod yn bellach na hanner awr o yrru o gymaint o’r gweithgareddau mwyaf poblogaidd, gan gynnwys y ganolfan beicio mynydd yng Nghoed y Brenin, y Ganolfan Dŵr Gwyn Genedlaethol ger y Bala, a llawer mwy. Gweler ein hadran Ble i fynd a beth i’w wneud' i gael mwy o wybodaeth!

Cyn ei adnewyddu, y Byncws oedd Clwb Golff Ffestiniog, a ffurfiwyd ym 1893. Dyma oedd un o’r cyrsiau golff uchaf yng Nghymru, ac roedd yn cynnwys llawer o nodweddion naturiol.

Dyluniwyd y gwaith adnewyddu a moderneiddio gan benseiri proffesiynol, ac mae Byncws Treks, sy’n fusnes teuluol, bellach yn cynnig llety pwrpasol a chyfforddus drwy gydol y flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys llofftydd ymarferol, cegin fodern, a lolfa gyfforddus sydd â wi-fi. Ac mae’n dal i gynnig y golygfeydd godidocaf ar draws Bro Ffestiniog.